Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

 

Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol

 

 

Cynnwys:

 

1.     Y sector gwirfoddol yng Nghymru

 

2.     effaith y pandemig ar y sector, o ran cyllido a darparu gwasanaethau

 

3.     effeithiolrwydd cymorth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol

 

4.     gwirfoddoli a gwydnwch cymunedol

 

5.     arfer da, cyfleoedd a heriau yn y dyfodol

 

 


 

1.     Y sector gwirfoddol yng Nghymru

 

Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos bod angen y sector gwirfoddol fwy nag erioed. Mae gan Gymru hanes hir o wirfoddoli, cyd-gymorth a gweithredu gwirfoddol, yn enwedig ar lefel gymunedol. Cadarnhawyd hyn yn ystod y chwe mis diwethaf yn ystod pandemig y coronafeirws (a'r llifogydd o ganlyniad i Storm Dennis ym mis Chwefror).

 

Mae'r sector gwirfoddol wedi ymateb yn anhygoel. Mae’r ymateb wedi bod yn gyflym, yn hyblyg ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i unigolion a chymunedau ledled Cymru.

 

Mae hwn yn gyfnod hynod heriol i lawer o fudiadau gwirfoddol – byddwn yn gweld newid mawr a pharhaol i natur y sector yng Nghymru.

Mae'r dyfodol yn ansicr iawn. Mae cyfleoedd i greu gwell dyfodol yn y tymor hir yn y ffordd rydym yn ymateb yn awr. Mae arnom angen sector cadarn a gwydn os ydym am wneud hyn. 

 

Cefndir

 

Mae'r sector gwirfoddol yng Nghymru yn sector bywiog ac amrywiol, sy’n gallu bod yn anodd ei gategoreiddio:

 

·        Mae'r sector gwirfoddol yn cynnwys elusennau cofrestredig, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol anghorfforedig, ac, yn ddiweddar, grwpiau cyd-gymorth.

·        Addysg/hyfforddiant, iechyd a chwaraeon yw'r meysydd gwaith mwyaf i fudiadau gwirfoddol. Fodd bynnag, mae'r sector yn cynnwys ystod eang o feysydd a gweithgareddau.

 


 

Mae elusennau yng Nghymru yn llai na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban:

 

·        Mae 32,000 o fudiadau gwirfoddol, ac mae 7300 ohonynt yn elusennau.

·        Cymru sydd â'r ganran uchaf o ficro elusennau yn y DU (53%). Elusennau bach yw’r 32% arall.[1]

·        Mae incwm elusennol y pen yn hanner yr hyn ydyw i elusennau sydd wedi'u lleoli yn Lloegr a'r Alban. (tua £400 y pen yng Nghymru ac £800 yn Lloegr a'r Alban.) Fodd bynnag, mae hyn yn rhannol oherwydd lleoliad swyddfeydd cofrestredig elusennau mawr sy'n gweithredu ledled y DU, ac sydd wedi'u cofrestru y tu allan i Gymru.[2]

 

Mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu at wead economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru:

 

·        Cyn COVID-19, amcangyfrifwyd bod tua 938,000 o wirfoddolwyr yn cyfrannu 145 miliwn o oriau, bob blwyddyn, sy'n werth £1.7 biliwn. Mae hyn yn cyfateb i tua 3.1% o CMC Cymru.[3]

·        Mae gwerth sylweddol hefyd i wirfoddoli, nad yw mor hawdd ei ddiffinio mewn termau ariannol, o ran llesiant unigol, cydlyniant cymdeithasol, cynhwysiant, adfywio economaidd, a datblygu cyfalaf cymdeithasol.

 

 

 


 

2.     Effaith y pandemig ar y sector, o ran cyllido a darparu gwasanaethau

 

Mae CGGC yn dymuno gweld sector gwirfoddol cadarn. Rydym yn diffinio hyn fel sector a all barhau i sicrhau manteision er gwaethaf sioc sylweddol, fel pandemig COVID-19. Mae hyn yn cynnwys bod yn hyblyg wrth ddarparu gwasanaethau, gallu diwallu angen cynyddol, a bod yn ddiogel yn ariannol.

 

Mwy o galedi

 

Mae pandemig y coronafeirws wedi cynyddu caledi yng Nghymru, ac mae hyn wedi arwain at fwy o alw ar y sector gwirfoddol. Mae rhai meysydd lle mae'r sector wedi gweld mwy o alw yn cynnwys:

 

·        Cymorth i'r rhai sy’n hunanynysu neu’n gwarchod eu hunain oherwydd y pandemig (gan gynnwys pobl nad yw'n ofynnol mwyach iddynt gadw at reoliadau penodol ond nad oes ganddynt yr hyder i adael eu tŷ fel mater o drefn).

·        Cymorth i bobl â chyflyrau meddygol.

·        Cymorth i bobl sydd wedi wynebu heriau oherwydd y cyfyngiadau symud, fel y rhai sy'n dioddef o gamdriniaeth neu ymddieithrio teuluol.

·        Cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau cyfeillio.

·        Cymorth i bobl sydd wedi colli incwm oherwydd y cyfyngiadau symud neu effaith y pandemig, yn enwedig y rhai sydd bellach yn anghenus.

·        Darpariaeth ddiwylliannol, gelfyddydol ac addysg yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud.

 

Er enghraifft, gwelwyd cynnydd yng nghynllun Cysylltwyr Cymunedol PAVO o 220 o atgyfeiriadau y mis ar gyfartaledd i 1,632 pan oedd nifer yr achosion o Covid-19 ar eu huchaf yng ngwanwyn 2020. Mae hyn wedi arwain at adleoli staff i'r gwasanaeth a newid i ddarparu gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos.

 

Mae'r holl wasanaethau hyn yn hanfodol i bobl y mae elusennau'n gweithio gyda nhw. Creodd y cyfyngiadau symud gynnydd yn y galw a fyddai wedi bod yn anodd i'r sector ei reoli, yn enwedig o ystyried yr angen i ddatblygu ffyrdd digidol, newydd o weithio, mewn cyfnod arferol. Mae'r ansicrwydd ariannol sy'n wynebu llawer o fudiadau ar hyn o bryd wedi gwneud yr angen hwn am ddulliau darparu gwasanaethau newydd ac wedi'u haddasu yn arbennig o heriol.

 

Effaith COVID-19 ar ddarparu gwasanaethau

 

Mae'r pwysau ar unigolion a chymunedau yn gysylltiedig â COVID-19 yn golygu bod galw cynyddol ar wasanaethau'r sector gwirfoddol. 

 

Mae'r pwysau yma’n effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau. Mae’r rhain yn cynnwys yr henoed, y rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol, pobl ag anableddau, llawer o gymunedau BAME, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl â heriau iechyd meddwl a'r rhai sy'n agored i drais domestig.

 

Ar y dechrau, roedd y cyfyngiadau symud ffisegol yn ei gwneud yn anos ymateb i'r rhain. Mae gan wasanaethau hanfodol sy'n galw am gyswllt wyneb yn wyneb bryderon newydd ynghylch diogelu a phwysau enfawr o ran cael gafael ar Gyfarpar Diogelu Personol. 

 

Mae gwasanaethau parhaus wedi'u lleihau neu eu hatal yn y tymor byr tra bod adnoddau'n cael eu hailgyfeirio tuag at COVID-19. Mae'r gwasanaethau hynny'n hanfod i rai a byddant yn cael effaith yn syth (er enghraifft, i bobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau). Bydd yn anodd ail-ymgysylltu pan fydd gwasanaethau'n agor.

 

Mae mudiadau'n addasu i gyflwyno gweithgareddau'n ddigidol. Fodd bynnag, nid oes gan bawb fynediad at y dechnoleg sydd ei hangen na'r lle gartref i siarad yn breifat. Mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau. Dywedodd un mudiad wrthym am ei bryderon ynglŷn â’r effaith ar bobl ifanc o ran iechyd meddwl, unigedd, unigrwydd ac addysg.

 

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae mudiadau'n ymateb i’r her ac yn addasu'r ffordd y maent yn gweithio i ddarparu gweithgareddau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes. Mae technoleg ddigidol yn helpu pobl i estyn allan, ymgysylltu, trefnu, darparu gweithgareddau, a hyd yn oed codi arian. Dros nos, mae pobl yn darganfod atebion digidol a fyddai wedi cael eu hystyried yn amhosibl o'r blaen. Mae ystod eang o wasanaeth yn mynd ar-lein gan greu posibiliadau ar gyfer y tymor hir.  Rydym wedi gweld cydweithio ar draws ffiniau mudiadau a sectorau – pobl yn cydweithio i ganolbwyntio ar yr argyfwng uniongyrchol, gan roi rhwystrau traddodiadol o'r neilltu.

 

Effaith COVID-19 ar gyllid

 

Mae'r sector yn profi colledion ariannol sylweddol. O ganlyniad, mae'r sector yn llai abl i helpu'r bobl hynny y mae'n gweithio gyda nhw ar yr union adeg pan fo'r galw mwyaf am y gwasanaethau a'r gweithgareddau y mae'n eu darparu.

 

Ledled y DU, amcangyfrifir y bydd elusennau'n colli 24% o gyfanswm eu hincwm am y flwyddyn[4]. Amcangyfrifwn y byddai hyn tua £620m i elusennau â phencadlys yng Nghymru, a cholled bellach i elusennau ledled y DU sy'n gweithredu yng Nghymru.

 

Mae elusennau Cymru yn llai na'u cymheiriaid yng Nghymru a Lloegr a Chymru sydd â'r ganran uchaf o ficro elusennau yn y DU (53%). Elusennau bach yw 32% arall. (Micro: llai na 10k, Bach: llai na 100k). I elusennau llai fel y rhai yng Nghymru, gall newidiadau sylweddol o ran incwm codi arian fod yn arbennig o broblemus. Mae'r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn amcangyfrif NAD OES unrhyw gronfeydd wrth gefn gan 24% o elusennau ag incwm o lai na £1m, gan wneud eu gallu i oroesi ac addasu yn ystod y cyfnod hwn yn llai tebygol.

 

Nid yw'n glir eto faint o swyddi a gollir – mae llawer yn aros i ail-asesu ar ddiwedd Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws – ond gwyddom:

 

·        Fod 33% o elusennau wedi dweud eu bod yn disgwyl y bydd raid colli swyddi yn ystod y 12 mis nesaf.

·        Dywedodd 36% o elusennau eraill nad oeddent yn siŵr a fyddai'n rhaid iddynt golli swyddi.[5]

 

Mae cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu incwm yn y dyfodol hefyd yn cael eu lleihau. Er enghraifft, mae digwyddiadau cyfranogiad torfol, ffrwd incwm codi arian bwysig, yn debygol o barhau i wynebu cyfyngiadau hyd yn oed wrth i gyfyngiadau eraill gael eu codi. Mae nifer o fudiadau hefyd yn dibynnu ar gyfleusterau lletygarwch, hamdden neu fanwerthu sy'n parhau i wynebu heriau ariannol (ac efallai na fyddant yn gymwys i gael cymorth busnes gan nad yw cyfanswm yr incwm yn cael ei leihau'n sylweddol, ond ni ellir defnyddio cyllid sy'n gyfyngedig i brosiectau i sicrhau’r balans).

 

3.     Effeithiolrwydd cymorth gan lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol

 

Cefndir

 

Gweithredodd Llywodraeth Cymru yn gyflym wrth ryddhau arian ar gyfer y sector gwirfoddol, yn bennaf drwy arian a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

·        Cronfa Argyfwng y Sector Gwirfoddol. Roedd ar gael o fis Ebrill tan fis Awst gan ddarparu cyllid ar gyfer y rhai a oedd yn rhoi cymorth hanfodol i grwpiau megis: pobl ar eu pen eu hunain, yr henoed, gofalwyr, pobl sy'n ei chael yn anodd cael gafael ar fwyd ac ati fel y gellir eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn. Dosbarthodd £7.5 miliwn.

·        Cronfa Adfer y Sector Gwirfoddol. Dyma olynydd Cronfa Argyfwng y Sector Gwirfoddol, ac mae'n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas o ganlyniad i bandemig Covid-19 a bydd yn darparu'r adnoddau i'r sector gwirfoddol gynnwys arferion diogel i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.

·        Cronfa Cadernid y Trydydd Sector. Cynllun benthyciadau a grant cyfunol yw hwn i gefnogi costau refeniw parhaus mudiadau’r sector gwirfoddol ac mae wedi darparu dros £4.7 miliwn i fudiadau gwirfoddol. Mae bellach yng ngham 2, sy'n cynnwys tri llinyn: goroesi, gwella ac arallgyfeirio.

 

Yn ogystal â hyn, nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid wedi'i dargedu'n well at sectorau penodol, gan gynnwys yn uniongyrchol i hosbisau ac i fudiadau sy'n mynd i'r afael â thrais domestig, a thrwy arian i gefnogi'r sectorau diwylliannol a chwaraeon, er enghraifft, y gall mudiadau'r sector gwirfoddol ei ddefnyddio.

 

Ymddengys bod cyfanswm y cyllid sydd ar gael i'r sector yng Nghymru yn weddol debyg i'r symiau a roddir i'r sector gwirfoddol yn Lloegr gan Lywodraeth y DU, er ei bod yn anodd cymharu oherwydd y ffordd y cafodd y grantiau hyn eu darparu yn y ddwy wlad. Darparodd yr Alban lefelau uwch o gyllid. Defnyddiodd y sector gwirfoddol hefyd gynlluniau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cynllun grant ardrethi busnes) a chynlluniau a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU (fel Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws) nad oeddent wedi'u hanelu'n benodol at y sector gwirfoddol.

 

Fodd bynnag, mae bwlch sylweddol o hyd rhwng cyfanswm y cyllid a ddarperir gan y llywodraeth a'r colledion sylweddol a ddisgwylir gan y sector.

 

Effeithiolrwydd

 

Mae'r sector wedi gwneud defnydd da o'r arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru[6]. Rydym hefyd yn sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i alluogi'r sector gwirfoddol i gefnogi'r adferiad ehangach.

 

Mae'r cyllid hwn yn aml wedi bod yn weddol debyg i gyllid San Steffan, er y nodwn fod bylchau, er enghraifft mewn grantiau uniongyrchol i wasanaethau rheng flaen.

 

Mae'n amlwg i ni fod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau'r cyllid hwn yn gyflymach i'r sector nag mewn rhannau eraill o'r DU a bod hyn yn golygu bod mudiadau wedi ymateb yn gyflymach i'r argyfwng nag a fyddai wedi digwydd fel arall.

 

Mae cyfuniad o'r cyllid sydd ar gael gan wahanol lywodraethau wedi golygu bod llawer o fudiadau’r sector gwirfoddol wedi gallu 'goroesi’r storm' hyd yma, yn enwedig mewn perthynas â cholli staff.

 

Gall hwn fod yn ddarlun cymysg oherwydd amrywiaeth y sector. Bydd rhai mudiadau wedi colli incwm sylweddol, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar eu gweithgareddau eu hunain i greu incwm. Ychydig iawn o gyllid sydd gan ficro-fudiadau eraill, a grwpiau anffurfiol. Bydd rhai wedi cael cyllid ychwanegol i gefnogi'r ymateb i’r argyfwng. Gall hyn yn aml fod yn seiliedig ar ffyrdd mudiadau unigol o weithio yn hytrach nag ar unrhyw sector penodol.

 

Fodd bynnag, yn y tymor canolig, mae’n debygol iawn y bydd elusennau'n cau, neu'n uno. I fudiadau mawr, efallai na fydd gostyngiad mewn cyllid yn golygu cau, ond bydd yn golygu gorfod lleihau eu gwaith gyda phobl.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhyddhau arian yn ddiweddar i gefnogi'r adferiad. Gall pob maes adfer gael ei gefnogi gan y sector gwirfoddol. Fodd bynnag, daw hyn ar adeg pan fo adnoddau'r sector dan bwysau sylweddol.

 

Argymhelliad: Gan adeiladu ar Gronfa Cadernid y Trydydd Sector, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid i gynyddu gwydnwch y sector a'i allu i chwarae ei ran i gynnig cymorth uniongyrchol i gymunedau yn ystod yr adferiad. O ystyried hyd yr argyfwng, dylid ystyried ymestyn y cyllid y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol.


 

4.     Gwirfoddoli a gwydnwch cymunedol

 

Mae'r ymdeimlad o ysbryd cymunedol yn rhywbeth cadarnhaol sydd wedi deillio o'r argyfwng. Er bod llawer o wirfoddolwyr a chymunedau wedi profi caledi yn eu cymunedau, maent hefyd wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd. Cred CGGC y bydd yr ysbryd hwn yn bwysig i gefnogi'r adferiad.

 

Yn benodol, bu cynnydd mewn gwirfoddoli ers dechrau'r pandemig:

 

·        Ers dechrau'r coronafeirws, mae 18,000 o bobl wedi cofrestru ar Gwirfoddoli Cymru (https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm?lang=CY)  – gwefan Cymru ar gyfer gwirfoddoli.

·        Mae seilwaith gwirfoddoli mwy cyson yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU. Mae Cymorth Trydydd Sector Cymru (sy'n cynnwys CGGC a Chynghorau Gwirfoddol Sirol lleol) wedi bod yn barod i ddechrau cefnogi gwirfoddolwyr yn eu cymunedau. Cefnogwyd hyn gan gronfa ddata gwirfoddoli Cymru gyfan Gwirfoddoli Cymru (https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm?lang=CY)

·        Yn ôl dadansoddiad cynnar, mae 40% o wirfoddolwyr newydd yn awyddus i barhau i wirfoddoli ar ôl pandemig y coronafeirws.

·        Mae rhai cyfleoedd gwirfoddoli cyn Covid-19 wedi dod i ben oherwydd hunanynysu a/neu effaith ceisiadau gan gyflogwyr i wneud mwy (h.y. staff rheng flaen). O ganlyniad, nid yw buddiolwyr sy'n agored i niwed bellach yn cael cymorth gwirfoddolwyr.

·        Mae pob sector yn cydnabod na fydd pob gwirfoddolwr yn dychwelyd yn syth pan gaiff cyfyngiadau eu codi ac efallai y bydd prinder. Mae’n bosibl y bydd angen i fudiadau recriwtio eto ar ôl pandemig y coronafeirws a gallai fod angen cymorth gyda hyn.

·        Cafwyd nifer sylweddol o grwpiau cyd-gymorth cymunedol lleol hefyd, wedi'u cydgysylltu ar-lein i raddau helaeth. Mae'r rhain yn anffurfiol ac yn answyddogol felly gall fod yn anodd mapio eu maint a'u graddfa.

 

Yn yr un modd, rydym wedi gweld gwerth cymunedau gwydn drwy'r pandemig hwn. Mae hyn yn cynnwys grwpiau cymunedol presennol, gyda llawer ohonynt yn gallu ymateb yn gyflym ac yn gweithio i barhau i roi cymorth i'w cymuned yn yr argyfwng hwn. Er enghraifft, darparodd MaesNi ym Maesgeirchen, Bangor, gymorth drwy sicrhau arian a bwyd i bobl yn ystod cyfnod cyntaf y cyfyngiadau symud.[7]

Yn yr un modd, gallai nifer o bobl ymgysylltu mwy â'u cymuned, ac yn enwedig mannau natur lleol, yn ystod y pandemig.

 

Mae CGGC o'r farn bod cyfle gwirioneddol i gynnal yr ymateb hwn gan wirfoddolwyr a chymunedau ar ôl y pandemig, i gefnogi'r adferiad ac i hyrwyddo llesiant yng Nghymru yn ehangach. Gyda'r diddordeb diweddar mewn gwirfoddoli, credwn fod lle i adeiladu ar yr ymateb hwn.

 

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sector gwirfoddol i ganfod meysydd ar draws ei waith lle gall gwirfoddoli gefnogi'r adferiad, y gwasanaethau cyhoeddus neu lesiant. Dylai hyn gynnwys rôl arweiniol weithredol i'r sector wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi meysydd newydd, gan ddechrau gyda meysydd allweddol lle gall buddsoddi arwain at gyfleoedd gwirfoddoli sy'n cefnogi llesiant yn yr adferiad. Mae cynigion penodol yn cynnwys diweddaru Gwirfoddoli Cymru (https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm?lang=CY)i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb gwirfoddoli ar draws gwahanol grwpiau; a chyllid ar gyfer rhaglenni sy'n ymwneud â natur, pobl ifanc, a symud pobl yn ôl i'r farchnad lafur.

 

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu rhaglen sy’n grymuso cymunedau drwy Gymru, gan weithredu fel gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol. Dylai hyn gynnwys Cronfa Cyfoeth Cymunedol a deddfwriaeth i roi mwy o allu i gymunedau gymryd rhan mewn gweithredu lleol.

 


 

5.     Arfer da, cyfleoedd a heriau yn y dyfodol.

 

Mae CGGC wedi bod yn gwrando ar y sector i ddeall pa arferion sydd wedi gweithio'n dda, a heb weithio. Rydym hefyd wedi edrych ar weithio gyda mudiadau i archwilio beth allai hyn ei olygu i'r dyfodol – yn gadarnhaol ac fel arall[8]. Mae CGGC yn cefnogi menter y Sefydliad Materion Cymreig i ddatblygu adnodd Sensemaker i gefnogi mudiadau gwirfoddol drwy Gymru i barhau i gasglu’r dysgu.

 

Wrth edrych ar y dyfodol, dylid gweld Covid-19 yng nghyd-destun digwyddiadau ehangach a newid. Mae hyn yn cynnwys gadael yr UE,ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd, trawsnewid modelau gwasanaeth gan gynnwys ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac addasu i newid sy’n cael ei lywio’n ddigidol. Yn ogystal ag argyfwng iechyd penodol, mae Covid-19 yn sbarduno newid arall a fydd yn heriol iawn i iechyd a llesiant, yr economi a chyflogaeth, tlodi ac anghydraddoldeb. 

 

Mae gan ein sector gwirfoddol amrywiol rôl hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi llesiant pobl ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn ystod y cyfnod hwn.

 

Er gwaethaf yr heriau enfawr hyn, mae gwersi cadarnhaol i'w dysgu. Ar draws y sector, rydym wedi cael ein gorfodi i wneud pethau'n wahanol – yn aml ar raddfa a chyflymder a ystyrid yn amhosibl cyn pandemig. Er bod digon o bethau na fyddai mudiadau am eu cynnal, rydym hefyd wedi gweld newid sydd wedi gweithio'n dda. Mae'r angen i arloesi wedi ein gorfodi i ddod o hyd i atebion newydd. Mae hyn yn cynnwys cydweithio newydd a gwasanaethau digidol mwy cynhwysol. Gwelsom gomisiynu mwy hyblyg a rhannu data a oedd yn caniatáu gwell ymatebion ar y cyd.

 

Hefyd crëwyd cyfleoedd i greu gwell dyfodol yn y tymor hir. Mae'r tarfu enfawr a grëwyd gan Covid-19 wedi creu cyfleoedd i newid systemau ac ymddygiad sefydledig a oedd yn sbarduno anghydraddoldeb, difrod amgylcheddol ac yn dadrymuso cymunedau. Mae uchelgais gref ar draws ein sector i 'ailgodi’n gryfach'. Mae gan ein sector, a arweinir gan werth, rôl hanfodol i'w chwarae wrth lunio a chyflawni hyn. Mae CGGC yn gweithio i gefnogi mudiadau i ddylanwadu ar ddyfodol cadarnhaol.

 

Os ydym am gyflawni hyn gyda'n gilydd, mae angen i Gymru gynnal sector gwirfoddol gwydn, gan allu addasu i'r heriau sylweddol sydd o'n blaenau.

 

Arfer da

 

Mae'r argyfwng wedi dangos y gwahaniaeth sy’n bosibl wrth i bobl ddod at ei gilydd yn wirfoddol. Roedd hyn yn arbennig o wir wrth ymateb i argyfwng, rhywbeth a welwyd yn gynharach eleni yn ystod y llifogydd.

 

Mae’r ymateb cymunedol wedi bod yn hanfodol i lesiant nifer o bobl. Cychwynnodd grwpiau newydd ac anffurfiol ledled y wlad, gan gynnwys grwpiau cyd-gymorth. Roedd modd i’r gweithredu cymunedol lleol hwn weithio’n gyflym ac mewn ffyrdd nad oedd modd i rannau eraill o gymdeithas wneud. Fe arweinion nhw’r ffordd yn aml.

 

Bu rhai pethau penodol o gymorth i’r grwpiau hynny symud yn gyflym a gwneud mwy o wahaniaeth:

·        Roedd o gymorth bod seilwaith cymunedol eisoes yn ei lle – seilwaith cysylltiadau a seilwaith ffisegol fel ei gilydd

·        Cysylltiadau da â busnesau lleol a chyrff cyhoeddus

·        Fe ysgogodd yr angen enfawr a’r ymateb anffurfiol cyflym filoedd o bobl

 

Mae angen i ni wneud mwy o waith i archwilio'r hyn a weithiodd a beth na weithiodd er mwyn dylanwadu ar arfer yn y dyfodol.

 

Hefyd arweiniodd yr ymateb anffurfiol cyflym at gwestiynau ynghylch sut i gynnal ysgogiad, cadw pawb yn ddiogel a'u cefnogi a hybu trefn lywodraethu briodol. Mae'r rhain yn faterion y mae cyrff seilwaith yn gweithio arnynt.

 

Gwelsom lawer iawn o arfer da yn ein sector, gan gynnwys newidiadau cyflym i fodelau gwasanaeth a ffyrdd creadigol o gynnal cymorth hanfodol i bobl[9]. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd newydd o gyflawni trwy ddulliau digidol. Dywedodd nifer o fudiadau eu bod wedi gallu cynyddu ac arallgyfeirio eu dulliau ymgysylltu drwy atebion digidol newydd.[10]

 

Drwy gydol yr argyfwng hwn, mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol wedi bod yn ymateb ochr yn ochr â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'r sector gwirfoddol a'i bartneriaid wedi elwa o'r ymgysylltu hwn. Mae'n aml wedi arwain at alluogi’r sector gwirfoddol i adlewyrchu barn ei ddefnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio ar gyfer pandemig, ac at y sector cyhoeddus yn galluogi'r sector gwirfoddol i gyflawni'n fwy effeithiol.

 

Fodd bynnag, mae'r cydweithio hwn wedi amrywio ar hyd a lled Cymru. Ceir enghreifftiau o gydweithio rhagorol o fewn ac ar draws sectorau. Ceir enghreifftiau hefyd o arfer gwael, gyda phenderfyniadau o'r brig i lawr o fewn cyrff cyhoeddus heb gynnwys y sector gwirfoddol a dinasyddion. Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddysgu a chryfhau'r cydweithio hwn a sicrhau ei fod yn gyffredinol.  Roedd rhai o'r enghreifftiau o'r hyn a weithiodd yn dda yn cynnwys comisiynu mwy hyblyg a rhannu data.

 

Mae ystod eang o feysydd lle gall y sector gwirfoddol fod yn rhan o'r broses o gefnogi'r adferiad. Mae'r rhain yn cynnwys: cymorth ar gyfer iechyd ac iechyd meddwl pobl y mae'r pandemig wedi effeithio'n andwyol arnynt, helpu plant a phobl ifanc a oedd ar ei hôl hi yn ystod y pandemig yn sgil colli oriau, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a waethygwyd gan yr argyfwng, cefnogi cymunedau yr effeithiwyd yn andwyol arnynt, lliniaru tlodi yn dilyn y dirwasgiad, a rhoi cymorth i bobl ddychwelyd i'r farchnad lafur.

 

Ym mhob un o'r achosion hyn, gall y sector gwirfoddol gyrraedd pobl benodol nad ydynt bob amser yn elwa’n deg o wasanaethau cyhoeddus eraill. Gallant hefyd wella gwasanaethau drwy adlewyrchu’n fwy effeithiol farn y bobl a'r cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw yn y broses llunio polisïau.

 

Argymhelliad: Mewn gwaith adfer yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob rhan o'r sector cyhoeddus yn ymgysylltu â'r sector gwirfoddol wrth lunio polisïau a darparu gwasanaethau. Dylai hyn hefyd arwain at fwy o weithio mewn partneriaeth y tu hwnt i'r adferiad a chynnwys lleisiau'r sector gwirfoddol yn ogystal â'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.

 

Cyfleoedd a heriau yn y dyfodol

 

Er bod y sector yn wynebu cyfnod sylweddol o gynnwrf a her, mae rhai cyfleoedd. Fel yr amlinellir yn adran pedwar, mae hyn yn cynnwys yn y sectorau gwirfoddoli a chymunedol. Mae cyfle i'r sector gefnogi cynlluniau adfer presennol a chynlluniau adfer nesaf Llywodraeth Cymru. Mae'n debygol y bydd buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf mewn adferiad economaidd. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddatblygu polisi a rhaglenni lle gall y sector gwirfoddol ychwanegu gwerth at raglen Llywodraeth Cymru.

 

Yn benodol, byddem yn tynnu sylw'r pwyllgor at y meysydd canlynol lle gall y sector gwirfoddol chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi adferiad gwyrdd a chyfiawn:

 

·        Gofal iechyd ataliol i leihau straen ar y gwasanaeth iechyd ffurfiol, megis drwy ragnodi cymdeithasol.

·        Buddsoddi mewn prosiectau natur a chadwraeth cymunedol.

·        Cefnogi pobl ifanc, naill ai drwy'r gwasanaethau ieuenctid, neu drwy fuddsoddi mewn gwirfoddoli ymysg pobl ifanc.

·        Rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol a gwirfoddol a arweinir gan y sector.

 

Mae nifer ar draws y sector yn gweld hyn fel cyfle clir i ailstrwythuro systemau ac ymddygiadau yn fwy sylfaenol er mwyn creu dyfodol mwy cynaliadwy. Mae syniadau ac egni ar draws gwahanol rannau o'r sector ynglŷn â hyn. Adlewyrchir hyn mewn mudiadau cenedlaethol fel y Cynghrair Economi Llesiant yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg. Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol hefyd yn darparu modelau sy'n hau hadau o ran sut y gellid gwneud pethau'n wahanol – ac yn well - yn y dyfodol. Mae enghreifftiau'n cynnwys mentrau ynni a bwyd cymunedol, i ffyrdd eraill o ddarparu gofal cymdeithasol.

 

Mae'r ansicrwydd enfawr a chyflymder y newid sy'n digwydd ar hyn o bryd yn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer newid er gwell, yn ogystal â bygythiadau. Mae gan y sector gwirfoddol, sy'n cynnwys mudiadau sy'n gyrru gwerth, rôl hollbwysig i'w chwarae wrth lunio ymatebion sy'n arwain at ddyfodol cadarnhaol.

 

Os ydym am fanteisio ar gyfleoedd i lunio dyfodol cadarnhaol, bydd angen sector gwirfoddol gweithgar a gwydn ar Gymru. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ganiataol. Yn ogystal â'r heriau ariannol sylweddol, mae ein sector yn wynebu heriau i addasu i wahanol ffyrdd o arwain, llywodraethu a darparu gwasanaethau. Er bod nifer o fudiadau wedi addasu'n gyflym i weithio digidol, mae'n amlwg yn awr y bydd angen cymorth ar fudiadau gwirfoddol i feithrin sgiliau, gallu, diwylliant a seilwaith i weithio'n ddigidol. Mae gan gyrff seilwaith rôl allweddol i'w chwarae yma, rhywbeth y dylai'r llywodraeth ei gefnogi.

 

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sector gwirfoddol i nodi meysydd ar draws ei waith lle gall y sector gefnogi'r adferiad, y gwasanaethau cyhoeddus neu lesiant. Tynnir sylw at rai uchod.

 

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn rhaglenni’r sector gwirfoddol sy'n cefnogi'r adferiad, mewn modd tebyg i Gronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol. O ystyried hyd yr argyfwng, dylid ystyried ymestyn y cyllid y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol.

 



[1] Micro: llai na £10,000, Bach: llai na £100,000

[2] Porth Data, gwefan CGGC

[3] Adroddiad Cynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru 2017 -18)

[4] Ymchwil ar sail y DU gyfan gan NCVO, y Grŵp Cyllid Elusennau, y Sefydliad Codi Arian ac fe'i cefnogwyd gan PricewaterhouseCoopers.

[5] Ymchwil gan Acevo a'r Ganolfan Iechyd Meddwl.

[6] Mae rhestr o dderbynwyr Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol ar gael yma: https://wcva.cymru/wp-content/uploads/2020/06/Derbynwyr-CAGG.pdf  

[7] Gweler Pellach Gwaith gan Sefydliad Bevan.

[8] Sut gallwn ni baratoi ar gyfer dyfodol gwahanol, Awst 2020 https://wcva.cymru/cy/views/sut-gallwn-ni-baratoi-ar-gyfer-dyfodol-gwahanol/

[9] Gweler Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol – adroddiad terfynol

[10] Gweler Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol – adroddiad terfynol